Cyngor Celfyddydau Cymru | Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau

Er mwyn cael cymaint â phosibl o amhleidioldeb mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi sefydlu gweithdrefn cofrestru buddiannau.


Ceir manylion y weithdrefn hon yn ein Côd Arfer Gorau.


Buddion Aelodau

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnal dwy Gofrestr Fuddiannau – y naill ar gyfer aelodau a’r llall ar gyfer staff. Bydd copiau o’r Cofrestrau ar gael i’r cyhoedd ei gweld ym mhob swyddfa Cyngor Celfyddydau Cymru yn ystod oriau swyddfa arferol. Nid yw’r Gofrestr Buddiannau Staff ar gael yn gyhoeddus.

Bydd yn ofynnol i bob aelod o’r Cyngor, ei Bwyllgorau, y Rhestr Genedlaethol o Gynghorwyr (yn rhai sy’n gwneud penderfyniadau neu’n cynghori yn unig) a staff gofrestru eu buddiannau wrth gael eu penodi ac ar ôl hynny ar ddechrau pob blwyddyn ariannol. Ymhlith y buddiannau sydd i’w cofrestru mae:

  • Cyfarwyddiaeth ac aelodaeth Bwrdd Ymddiriedolwyr, Cyngor, Pwyllgor Rheoli neu gorff llywodraethu arall unrhyw gorff neu gwmni.
  • Cyfran ariannol fel perchnogaeth tir neu eiddo, dal buddrannau mewn, neu gyflogaeth mewn corff sy’n cael cymorth ariannol oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru (neu y mae’n hysbys ei fod yn bwriadu gofyn am gymorth ariannol oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru).
  • Cysylltiadau teuluol agos (boed drwy waed neu berthynas agos arall) ag unigolyn sy’n cael neu sy’n ceisio am gymorth ariannol oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru, neu ag unigolyn sydd â rhan (naill ai fel rheolwr neu weithiwr cyflogedig) mewn corff sy’n cael neu’n ceisio am gymorth ariannol oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru.

Cymryd Rhan mewn Cyfarfodydd

Mae dyletswydd ar aelodau a staff i ddatgan unrhyw fuddiannau yr eiliad y daw i’r amlwg y gallant fod yn berthnasol i’r pwnc sy’n cael ei drafod gan y Cyngor.

Gellir gweld manylion llawn y polisi yn ein Côd Arfer Gorau.

Dogfennau Perthnasol

Y Cyngor: Llun: NoFit State Circus

Y Cyngor

Ei aelodau a'i waith

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245