37 awr yr wythnos gan gynnwys gwaith gyda’r hwyr ac ar benwythnosau
£25,472 - £29,236 (Gradd H)
Cyf.: 015364
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin am benodi rhywun i’r uwchswydd hon er mwyn paratoi ar gyfer cwblhau ei ganolfan newydd sef y Ffwrnes yn Llanelli ym mis Hydref 2012.
Hefyd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn ei fannau cynnal eraill sef Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin a Theatr y Glowyr yn Rhydaman. Bydd yr Uwch Gydlynydd yn arwain, yn sbarduno ac yn datblygu’r gwaith beunyddiol, y swyddfa docynnau, y timau rhaglenni a gweithgareddau allgymorth yn Theatr y Ffwrnes, Theatr y Lyric a Theatr y Glowyr ynghyd â lleoliadau eraill i gyrraedd y targedau o ran incwm a datblygu cynulleidfaoedd gan sicrhau effeithlonrwydd a buddiannau Gwasanaethau Hamdden y Cyngor a’r cwmnïau sy’n ymweld.
O fis Ebrill tan fis Tachwedd 2012 bydd y dyletswyddau’n ymwneud yn benodol â helpu i sefydlu’r Ffwrnes yn Llanelli.
Mae’r swydd hon yn cael ei chyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen Gydgyfeirio’r Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch a Carwyn Matera-Rogers drwy ffonio 01554 774057.
Bydd archwiliad o gofnodion troseddol yn ofynnol i’r swydd hon.
Dyddiad Cau: 17eg Chwefror, 2012
Mae ffurflenni cais ar gael oddi wrth 01267 234567 neu e-bost galw@sirgar.gov.uk