(37 awr yr wythnos)
Caerdydd
Cyflog £35,415 - £44,545
Mae'r swydd yn un allweddol yn y Cyngor. Cydlyna a darpara'r Pennaeth wasanaethau a chyngor o safon a fydd o gymorth i'n prif sefydliadau celfyddydol i ddatblygu eu busnes a'u gallu trefniadol.
Rhan bwysig o'r swydd yw monitro a dadansoddi perfformiad y sefydliadau celfyddydol, gwneud diagnosis o'r problemau busnes o'u blaenau a chynnig atebion ymarferol iddynt.
Agwedd bwysig arall ar y gwaith datblygu hwn yw monitro, cefnogi ac arbenigedd technegol i gynnal rheolaeth effeithiol ein rhaglen Cyfalaf Loteri a'n prosiectau cyfalaf.
Chwiliwn am unigolyn â brwdfrydedd dros y celfyddydau, sgiliau busnes cadarnha’r creadigrwydd i ddod o hyd i atebion dychmyglon i broblemau trefniadol. Bydd angen bod yn llythrennog o ran arian a busnes gyda'r gallu i asesu, gwneud diagnosis a mynd i'r afael â materion ariannol, rheoli and gweithredu.
Hefyd gofyniad allweddol yw meddu ar wybodaeth gadarn o reoli ariannol, cynllunio busnes a'r fframwaith cyfreithiol sy'n effeithio ar sefydliadau a'u hymarferion busnes.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad hysbys o gychwyn, datblygu a gweithredu polisïau/gweithdrefnau, llywodraethu a rheoli perygl. Bydd ganddo hefyd wybodaeth ymarferol o'r prosesau a'r sgiliau angenrheidiol i reoli'n llwyddiannus brosiectau cyfalaf.
Mae'n buddion yn cynnwys oriau gweithio hyblyg, gwyliau hael a phensiwn cyflog terfynol. Gweithiwn drwy'r Gymraeg a'r Saesneg.
Am ragor o fanylion a ffurflen gais, ffoniwch 02920 441 343 neu lawrlwythwch y dogfennau canlynol:
Head (Business Development) Job Description
Head of Business Development - recruitment information
Dyddiad cau: 09 Mawrth 2012.
Gweithredwn bolisi cyfle cyfartal ar recriwtio a chroesawn yn wresog geisiadau gan bob adran o'r gymuned.
‘Enillydd Gwobr Rhagoriaeth (Cydraddoldeb yn y Sector Cyhoeddus) Diverse Cymru 2011’