Cyngor Celfyddydau Cymru | Cynghorydd Gwybodaeth

Cynghorydd Gwybodaeth

02 Maw 2012

Cynghorydd Gwybodaeth (rhan amser – 18.5 awr yr wythnos – bore neu brynhawn)
(Caerdydd)
£21,063-£29,949 (pro rata)

A ydych yn frwd dros y celfyddydau? A ydych yn weinyddwr eithriadol? A ydych yn ddymunol ar y ffôn ac yn awyddus i wasanaethu cwsmeriaid? A ydych yn siarad ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg yn rhugl ac yn dda? A ydych yn hoff o wybod yr hyn sy'n digwydd?

Os "ydw" yw'ch ateb i'r cwestiynau hyn, gallech ymuno â'n tîm desg gymorth newydd.

Darpara'r gwasanaeth wybodaeth a chyngor o safon am ein rhaglenni ariannu a'n gweithgareddau a chydlyna gymorthfeydd ariannu hygyrch ledled Cymru. Trafodwch ystod eang o ymholiadau ffôn ac e-bost oddi wrth artistiaid, sefydliadau, y cyhoedd a chi fydd cyswllt blaen tŷ swyddfa Caerdydd.

Defnyddiwch eich profiad o weithio mewn amgylchedd desg gymorth debyg a'ch dealltwriaeth o'r broses rhoi grantiau i ddatrys ymholiadau'n effeithiol neu ddod o hyd i'r cydweithiwr cywir i'w wneud. Bydd eich gwybodaeth gynyddol yn eich galluogi i ymchwilio a chreu deunyddiau arweiniol am ariannu a chanllawiau ‘sut i wneud'.

Mae medru Cymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae'n buddion yn cynnwys oriau gweithio hyblyg, gwyliau hael a phensiwn cyflog terfynol. Gweithiwn drwy'r Gymraeg a'r Saesneg. Am ragor o fanylion a ffurflen gais, ffoniwch 02920 44 1343 neu lawrlwythwch y ddogfen ganlynol.

logo pdf bachDisgrifiad swydd - Cynghorydd Gwybodaeth


Dyddiad cau: 2 Mawrth 2012.

Gweithredwn bolisi cyfle cyfartal ar recriwtio a chroesawn yn wresog geisiadau gan bob adran o'r gymuned.
‘Enillydd Gwobr Rhagoriaeth (Cydraddoldeb yn y Sector Cyhoeddus) Diverse Cymru 2011’

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245