Cyngor Celfyddydau Cymru | Gwobr Lluniadu Kyffin Williams 2012

Gwobr Lluniadu Kyffin Williams 2012

01 Mai 2012

Nod

Nod Gwobr Lluniadu Kyffin Williams yw hyrwyddo a gwobrwyo talent ac ardderchowgrwydd mewn lluniadu.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i bob arlunydd sy’n byw yng Nghymru neu sydd â chysylltiad gyda Chymru trwy enedigaeth neu dewis. Dylai pob ymgeisydd fod yn 18 oed neu drosodd.

Manylion cyffredinol

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei barnu gan banel o feirniaid fydd yn cynnwys arlunwyr, curaduron ac aelodau’r Ymddiriedolaeth.

Beirniaid

Yr Athro Derec Llwyd Morgan:
Cadeirydd, Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams
Paul Joyner, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams
Gareth Parry: Arlunydd
Mary Lloyd Jones: Arlunydd
Sarah Carvell: Arlunydd

Y ganolfan weinyddol ar gyfer y wobr fydd Oriel Ynys Môn, sef partneriaeth weithio rhwng Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams ac Oriel Ynys Môn.

Cydlynydd y wobr yw:

Nicola Gibson, Swyddog Celf, Oriel Ynys Môn.

Bydd unrhyw waith i’r gystadleuaeth yn waith fydd yn gymwys i’w alw’n lluniad ym marn y Panel Dewis. Diffinnir lluniad, i bwrpas y gystadleuaeth hon fel: gwaith celf gwreiddiol, mewn dau ddimensiwn, fel arfer ar bapur, wedi ei wneud o farciau graffig fydd yn cynnwys y defnydd o linell o fewn y llun.

Mae pob gwaith a wnaed ers Ionawr 2011 yn gymwys i’w roi i mewn yn y gystadleuaeth.

Gwobrau

Cyflwynwyd gan Noddwyr y wobr hon:
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
(Gwobr gyntaf ac ail yn agored i bawb)
Gwobr Gyntaf £3,000
Ail Wobr £2,000
(Gwobr Myfyriwr / person ifanc yn agored i rai sy’n
astudio’n llawn amser ac/neu hyd at 28 oed)
Gwobr i Fyfyriwr £1,000

Ffurflenni cais

Rhaid derbyn ffurflenni cais erbyn Mai 1 2012.

Rhaid cwblhau’r ffurflenni gan amgáu’r ffi briodol am y nifer o weithiau y byddwch yn dymuno iddynt gael eu hystyried.

Gall pob ymgeisydd gyflwyno hyd at dri llun.

Byddwn angen ffi handlo, na ellir ei dychwelyd, ar gyfer pob llun i’w gynnwys yn y gystadleuaeth, fel a ganlyn:
Un llun £15
Dau lun £20
Tri llun £25

Ar gyfer pob gwaith fydd yn cael ei gynnig, gofynnir i’r arlunydd gyflwyno delwedd o ansawdd dda (gall hwn fod ar CD, Jpeg, ffotograff neu sleid: os yw’r gwreiddiol yn lliw RHAID i’r ddelwedd hefyd fod yn lliw). Bydd maint y llun yn ddim mwy na 1.5m x 1m, yn cynnwys ffram.

Bydd pob arlunydd yn cael ei hysbysu trwy lythyr o benderfyniad y Panel Dewis erbyn Mai 31 2012.

I lawrlwytho ffurflen gais ewch i www.kyffinwilliams.info neu cysylltwch â 01248 724444 / 01248 752014.

Arddangosfa

Cynhelir arddangosfa o’r gwaith fu’n llwyddiannus yn Oriel Kyffin Williams. Hydref 20 – Ionawr 20, 2013

Bydd hyd at 100 o luniau yn yr arddangosfa, yn ôl penderfyniad y beirniaid.

E-Arddangosfa – bydd hyn yn cynnwys yr holl arlunwyr a wahoddwyd i arddangos gwaith a bydd yn dangos manylion catalog ar yr holl arlunwyr. gwerthu’r gwaith

Codir comisiwn o 30% ar bob gwerthiant + TAW (20%) ar y comisiwn. Fe ddylid cynnwys y comisiwn 30% + TAW ym mhob pris gwerthu a nodir gan yr arlunydd. Bydd gwaith a werthir ar gael i’w nôl o Oriel Ynys Môn ar ôl yr arddangosfa. Os bydd angen y gwaith ar gyfer arddangosfeydd pellach, byddwn yn gofyn am ganiatâd y perchennog(ion) newydd.

Bydd angen rhoi yswiriant ar bob un o’r darluniau cyn eu nôl.

Unwaith y bydd gwaith wedi ei dderbyn, bydd wedi’i yswirio trwy gydol yr arddangosfa. am ragor o wybodaeth

Oriel Ynys Môn, Rhosmeirch,
Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TQ
Ffôn: 01248 724444 / 01248 752014
Ffacs: 01248 750282 e-bost: ngxlh@anglesey.gov.uk

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245