Cyngor Celfyddydau Cymru | Grantiau Sefydliad Pollock-Krasner i artistiaid

Grantiau Sefydliad Pollock-Krasner i artistiaid

Â’i gartref yn Efrog Newydd, cenadwri Sefydliad Pollock-Krasmer yw cynorthwyo’n rhyngwladol yr unigolion hynny sydd wedi gweithio fel artistiaid dros gyfnod maith. Meini prawf deuol y Sefydliad ar gyfer rhoi grantiau yw teilyngdod artistig adnabyddadwy ac angen ariannol, boed yn broffesiynol, yn bersonol neu’r ddau.

Mae’r Sefydliad yn croesawu, drwy gydol y flwyddyn, geisiadau gan artistiaid gweledol sy’n beintwyr, yn gerflunwyr ac yn artistiaid sy’n gweithio ar bapur, gan gynnwys gwneuthurwyr printiau.

Mae’r Sefydliad yn annog ceisiadau gan artistiaid sydd ag anghenion ariannol dilys, nad ydynt o anghenraid yn rhai trychinebus. Bwriedir y grantiau am gyfnod o flwyddyn. Bydd y Sefydliad yn ystyried angen ymgeisydd o ran pob traul dilys sy’n ymwneud â’i waith proffesiynol a bywyd personol, gan gynnwys costau meddygol. Pennir swm y grant gan amgylchiadau’r unigolyn. Rhoddir ystyriaeth i hanes arddangosfeydd. Rhaid i artistiaid fod wrthi’n arddangos eu gwaith cyfredol mewn canolfannau artistig proffesiynol megis gofodau orielau ac amgueddfeydd.

Nid yw’r Sefydliad yn derbyn ceisiadau gan artistiaid masnachol, ffotograffwyr, artistiaid fideo, artistiaid perfformio, gwneuthurwyr ffilm, gwneuthurwyr crefftau, artistiaid cyfrifiadurol nac unrhyw artist y mae ei waith yn syrthio’n bennaf i’r categorïau hyn. Nid yw’r Sefydliad yn rhoi grantiau i fyfyrwyr nac yn ariannu astudio academaidd. Nid yw’r Sefydliad yn rhoi grantiau i dalu hen ddyledion, taliadau cyfreithiol, prynu eiddo, symud i fyw i ddinasoedd eraill, teithio personol nac i dalu am gostau gosodweithiau, comisiynau na phrosiectau a archebir gan bobl eraill.

Nid oes unrhyw ddyddiadau cau.

Am wybodaeth bellach: www.pkf.org

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245