Gradd y cyflog: £35,415 - £44,545 y flwyddyn
Ar dân dros y celfyddydau?
Cynnig Cyngor Celfyddydau Cymru bedair swydd gyffrous i uwch-weithwyr proffesiynol ym maes y celfyddydau a fyddai wrth eu bodd â'r her o lywio dyfodol celfyddydau Cymru.
Chwiliwn am unigolion eithriadol sydd â hyder ac arbenigedd i weithio ar draws y celfyddydau, sef perfformio,gweledol a chrefftau, digidol a darlledu. Chwiliwn hefyd am unigolion sydd ag arbenigedd ym maes hyfforddi, llywodraeth leol ac adfywio.
Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus arbenigedd celfyddydol eang a'r hyder i reoli timau o arbenigwyreraill. Bydd ganddynt hefyd brofiad o reoli ar lefel uwch a'r sgiliau ymarferol i sicrhau y darperir yn llwyddiannus ein strategaethau datblygu'r celfyddydau.
Mae'n buddion yn cynnwys oriau gweithio hyblyg, gwyliau hael a phensiwn cyflog terfynol. Gweithiwn yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Am ragor o fanylion a ffurflen gais, ffoniwch 02920 44 1343 neu lawrlwythwch y dogfennau canlynol:
Disgrifiad swydd - Rheolwr Portffolio 1,2,3
Disgrifiad swydd - Rheolwr Portffolio 6,7
Nodyn cyfarwyddyd - Rheolwr Portffolio
Dyddiad cau: 8 Mawrth 2012
Gweithredwn bolisi cyfle cyfartal ar recriwtio a chroesawn yn wresog geisiadau gan bob adran o'r gymuned.
‘Enillydd Gwobr Rhagoriaeth (Cydraddoldeb yn y Sector Cyhoeddus) Diverse Cymru 2011’