Mae strwythur staff Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnwys swyddfa ganolog a swyddfeydd rhanbarthol.
Rheolir Cyngor Celfyddydau Cymru o ddydd i ddydd gan y Prif Weithredwr Nick Capaldi a'r Tim Rheoli Uwch.
Mae gan Gyngor Celfyddydau Cymru Swyddfa Ganolog yng Ngherdydd ac yno y mae Swyddfa Ranbarthol De Cymru a’n Gwasanaethau Canolog wedi eu lleoli.
Mae gan y Cyngor swyddfeydd hefyd ym Mae Colwyn (Swyddfa Gogledd Cymru) a Chaerfyrddin (Swyddfa Canolbarth a Gorllewin Cymru). Gellir cael manylion cyswllt y swyddfeydd hyn yma.
I weld rhagor o wybodaeth am ein strwythur a’n haelodau staff unigol, gallwch daro golwg ar ein cyfeiriadur staff.