Rydym am i gelfyddydau Cymru gynnwys pawb. Gwyddom y bydd celfyddydau Cymru yn fwy bywiog, cyffrous a pherthnasol o'r herwydd.
Yn y gorffennol, mae ein hymagwedd tuag at gydraddoldeb wedi canolbwyntio ar Hil, Anabledd a Rhyw ac fe adlewyrchir hyn yn ein polisïau a'n canllawiau cydraddoldeb cyfredol. Mae ein Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2010/11 yn crynhoi ein gwaith diweddar.
Agwedd newydd
Rydym bellach wedi cyhoeddi ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Byddwn yn cyhoeddi ein cynllun gweithredu manwl a chyflawn yn ystod tymor yr hydref 2012.
Cynllun Cydraddoldeb Strategol - Crynodeb o'n hamcanion cydraddoldeb
Cynllun Cydraddoldeb Strategol - Crynodeb o'n hamcanion cydraddoldeb (fersiwn .doc)
Rydym yn gweithio tuag at ffordd ehangach o ymdrin â chydraddoldeb ac amrywiaeth sy'n cynnwys pob nodwedd warchodedig sydd yn Neddf Cydraddoldeb 2010 sef oedran , anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys tarddiad ethnig neu o ran hil, lliw croen neu genedligrwydd), crefydd neu gred (neu ddiffyg cred), rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol.
Golyga hyn y bydd ein gwaith yn unol â deddfwriaeth newydd a chydnebydd fod gwahaniaethu'n aml yn gyfuniad o ffactorau.
Bydd yr adran hon o'r wefan yn cynnwys rhai enghreifftiau o weithgaredd a fydd yn rhoi syniad i chi o'r amrediad o waith sy'n cyfrannu at amrywiaeth y celfyddydau yng Nghymru.