Rhai pethau i'w hystyried
Gwnewch y gorau o'ch sgiliau trosglwyddadwy.
Byddant yn bwysig wrth gynnal eich ymarfer.
Ymchwiliwch orielau posibl
Chwiliwch am orielau/asiantaethau/sefydliadau sy'n cydymdeimlo â'ch math chi o ymarfer. Gallech gael eich gwrthod am nad yw'r gwaith yn addas i'r oriel.
Ymunwch â rhwydweithiau
Gwnewch yn siŵr eich bod ar restrau gwahodd orielau, eich bod yn cwrdd â chymheiriaid o'r un anian ac yn ffurfio cysylltiadau ag artistiaid ac orielau sy'n dangos y gwaith sy'n eich ysbrydoli.
Dogfennwch eich gwaith
Ewch i'r arfer o ddogfennu'ch gwaith a'r broses. Dysgwch sut i'w wneud eich hun, gan arbed arian a dysgu sgiliau newydd a sicrhewch fod gennych ddelweddau sydd ar gael ar fyr rybudd.
Erbyn hyn, delweddau digidol yw'r dull dogfennu gwaith arferol, oherwydd y gellir eu hanfon yn gyflym ar-lein. Dewch i nabod eglurder eich delweddau ar gyfer eu hargraffu a maint y ffeiliau i ebyst. Yn gyffredinol, oni bai y gofynnir fel arall, jpeg yw'r ffeil ddelweddau safonol.
Dangoswch eich gwaith ar-lein
Cofrestrwch â chronfeydd data ar-lein a chyflwynwch eich gwaith i gynulleidfa eang. Mae rhai cronfeydd data'n ddi-dâl ond mae gan wefannau sy'n seiliedig ar danysgrifiadau ystod o nodweddion a chyfleoedd fel rhan o'r pecyn aelodaeth. Ystyriwch greu'ch gwefan eich hun.
Cyfleoedd
Tanysgrifiwch i "Artists' Newsletter" ac "Axis"; y manteision yw mynediad i gyfleoedd, gwybodaeth a phroffil ar draws y DU. Edrychwch ar wefannau Cyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Safle i gael newyddion am gyfleoedd.
Daliwch ati i Wneud Cais
Gwnewch gais am o leiaf 3 pheth bob mis a gwnewch yn siŵr fod gennych CV a CD o ddelweddau (a rhai y gellir eu hanfon trwy e-bost) yn barod i fynd; mae hyn yn lleihau pwysau gwneud cais ar y munud olaf.
Ceisiadau a Chynigion
Darllenwch ffurflenni cais yn ofalus. Ysgrifennwch yn ofalus gan osgoi jargon y celfyddydau. Cofiwch nad yw pwy bynnag sy'n darllen y cynnig mor gyfarwydd â'ch gwaith ag yr ydych chi. Efallai nad yw'r hyn sy'n amlwg i chi'n amlwg i bawb.
Dysgu bob amser
Ceisiwch elwa ar gyfleoedd hyfforddiant yn enwedig hyfforddiant mewn meddalwedd cyfryngau megis "photoshop", "final cut pro" a phecynnau delweddu eraill. Gall y rhain wella dogfennu a marchnata'ch gwaith.
Cydbwyso'ch amser
Osgowch waith sydd â chyflog isel i gefnogi ymarfer stiwdio (oni bai ei fod yn debygol o arwain at bethau gwell). Os yw gwaith asiantaeth yn bosibilrwydd cofiwch y bydd yr oriau hir y gallwch eu gweithio'n effeithio ar eich amser celf, a'r ochr arall i'r geiniog yw gwaith rhan- amser gyda chyflog isel. Chwiliwch am gydbwysedd ond peidiwch â chyfaddawdu o ran eich ymarfer celf. Gall gwaith yn y cyfryngau gefnogi'ch ymarfer ac mae ysgrifennu a dysgu, er enghraifft, hefyd yn gyfleodd i rwydweithio.
Dylech wybod eich gwerth
Ymchwiliwch ffioedd artistiaid/ cyflogau/ cyfraddau cyfredol. Mae gan "AN, Artists Newsletter" gyngor ar gyfraddau cyfredol i artistiaid. Os ydych yn gwerthu gwaith, ymchwiliwch eich gwerth mewn perthynas ag artistiaid eraill sy'n gwerthu eu gwaith. Nid yw 'rhy uchel' na 'rhy isel' yn dda.
Cydweithio ag eraill
Ystyriwch rannu adnoddau a byddwch yn agored i ymarfer cydweithredol; gall agor drysau i gyfleoedd a chynulleidfaoedd i'ch gwaith.
Dod yn hunangyflogedig
Os ydych yn ennill incwm o'ch gwaith rhaid i chi gofrestru'n hunangyflogedig. Bydd eich swyddfa Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi leol yn cynnal gweithdai rheolaidd ar fod yn hunangyflogedig. Mae'n swnio'n frawychus ond mae'n haws nag yr ydych yn ei feddwl. Cadwch olwg ar waith papur/derbynebau. Cadwch flwch ar wahân neu le cyfarwydd yn eich bag ar eu cyfer cyn eu ffeilio ar ddydd Sul unwaith y mis.
Rhai cysylltiadau defnyddiol
Axis Artists Resource and Database
Menter Diwylliannol Cymru
Bloc: Creative Technology Wales
Artists Newletter
Art Quest: Artists Resource
Studio Pottery
Y Cyngor Crefftau
CIRIC: Creative Industries Research and Innovation Centre
Potters: Ceramics Resource
UK Potters: Ceramics Resource
Clay Wales: Ceramics Resource
Craft in Wales
UK Craft Websites
Cyfeiriadur Dylunio Cymru
Crafts Scotland
ICGA: The Independent Craft Galleries Association
Dylunio Cymru
WARP: Wales Artists Resource Programme
Association for Contemporary Jewellery
Association of British Designer Silversmiths
Locws International
Celfyddydau a Busnes Cymru
Celfyddydau Cymru Rhyngwaldol
Rhai Cronfeydd Data i Artistiaid ar-lein
The Artists Web: Promoting Artwork online
ARC (Artists Resource Cardiff)
Art Selector: Contemporary Art Collective
The Big Fuss: Artists Directory
Crafts Council
Rhai Gwefannau Gwybodaeth am y Celfyddydau
Re-title: Artists Directory and Event Listings
Art Rabbit: Art Listings
Celf Perfformio yng Nghymru: Bas Data ac Archif
Public Art Online
Culture Enterprise Wales: Network and Resource
Celfyddydau Gwirfoddol Cymru
The 24 hour Museum: Art Listings
North West Gallery Guide
Celfyddydau Cymunedol Cwm a Bro
Arts Catalyst: Art and Science
British Arts: Arts Resource
Rhai Rhwydweithiau i Artistiaid
Framework: Artists Collective
Rhwydwaith Sector Gwirfoddol Pobl Dduon Cymru
Babylon Wales: Cultural Blog
Midwest: Artists Resource
Digital Women's Network
The Critical Network: Arts Resource
Cymdeithas Celfyddydau Menywod
Dolenni ynglŷn â bod yn hunangyflogedig a dolenni defnyddiol eraill
Cyllid a Thollau ei Mawrhydi
AN: Artists Newsletter, Artists Resource
Artquest: Artists Resource
Accounts for Artists: Advice
Employment Studies
Artlaw Archive
Artquest: Artists Resource
Arts Advice
British Arts
Creative Capital Platform Three
Creative People
Design and Artists Copyright Society (DACS)
ACID - Anti copying in Design
Rhai Urddau a Chymdeithasau
Cymdeithas y Crochenwyr Crefft
Urdd Gwneuthurwyr Cymru/Crefft yn y Bae
Crochenwyr De Cymru
Guild of Glass Engravers
Llyfrau: Rhai Canllawiau Cyffredinol
Rhai Cylchgronau
The Art Newspaper
AN - the Artist's Information Company (Artist's Newsletter)
Art Monthly
Art Review
Frieze
British Journal of Photography
Ceramic Review
Crafts
Galleries
International Artist Magazine
Artists and Illustrators Magazine
Craftsman Magazine
Modern Painters Magazine
Ceramics Monthly
Ceramics Art and Perception
Selvedge
Welsh Art Now