Ein Newyddion Diweddaraf.
Dydd Mawrth - 15 Mai 2012
Mae menter deithiol ryngwladol Dance Roads yn dod i Chapter, Caerdydd ar ddiwedd mis Mai ac yn cynnig cyfle i gynulleidfaoedd weld gwaith 5 o goreograffwyr mewn un rhaglen amrywiol a diddorol.
Mae Rhôd yn ddigwyddiad celf awyr-agored unigryw a gynhelir yn flynyddol ym Melin Glonc, Sîr Gâr gyda chymorth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru.
Mae Gŵyl Gregynog, gŵyl gerdd glasurol hynaf Cymru, wedi llwyddo i ddenu amrediad o berfformwyr eithriadol ar gyfer 2012, diolch i gytundebau ariannu newydd am y tair blynedd nesaf gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ac Uned Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru.
Dydd Llun - 14 Mai 2012
Mae Ikon ac Oriel Gelf Glynn Vivian mewn partneriaeth ag Oriel Mission, Abertawe, yn cyflwyno arddangosfa newydd gan Bedwyr Williams ei sioe fwyaf cynhwysfawr hyd yn hyn.
Dydd Gwener - 11 Mai 2012
Cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru pha naw llyfr Cymraeg a naw llyfr Saesneg sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2012 mewn digwyddiad arbennig yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu nos Iau 10 Mai 2012.
Dydd Iau - 10 Mai 2012
Dewch heibio i gael gwybod mwy am y Peace Camp, y cywaith mwyaf rhamantaidd a ddaeth i Ynys Môn erioed, a sut y gallwch chi fod yn rhan o hwn, un o gyweithiau Gŵyl Llundain 2012.
Dydd Mawrth - 08 Mai 2012
Bydd gwaith dros 100 o artistiaid a digwyddiadau celf lleol yn cael eu harddangos fel rhan o Daith Celf Ceredigion yr haf hwn (17 Awst - 16 Medi).
Roald Dahl ydi ysbrydoliaeth rhaglen ddwbl newydd Ballet Cymru.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi trefnu dau ddigwyddiad mewn partneriaeth ag ixia, melin drafod celf gyhoeddus. Bydd y digwyddiadau yn cael eu cymedroli gan y Curadur, Artist a’r Awdur, Paul O’Neill.
Dydd Gwener - 04 Mai 2012
Mae un o awduron Coronation Street, Simon Crowther, a aned yng Nghaerdydd, wedi ysgrifennu drama newydd yn seiliedig ar grŵp o ffrindiau sy’n cwrdd unwaith eto am un noson. Lleolir y ddrama yng Nghaerdydd. Cynhyrchir The Get Together fel rhan o ddigwyddiadau AMRWD Sherman Cymru, a fe’i cyflwynir yn y theatr o 22 - 26 Mai.
Bydd un o gyfansoddwyr mwyaf dylanwadol ein hoes, Philip Glass, yn rhoi enaid newydd i'r ffilm glasur 'Dracula' a wnaed yn 1931, gyda pherfformiad byw o'i sgôr ei hun gyda Phedwarawd Kronos yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Sul 27 Mai.
Mae Clwyd Theatr Cymru Theatr ar gyfer Pobl Ifanc wedi cefnogi Gŵyl Lenyddiaeth a Chelf Daniel Owen ers iddi gael ei sefydlu yn 2010 a bryd hynny lansiwyd gwobr ysgrifennu newydd i ddathlu bywyd un o awduron enwocaf Cymru, Daniel Owen o’r Wyddgrug.
Dydd Iau - 03 Mai 2012
Ar nos Sadwrn y 12fed a nos Sul 13eg o Fai 2012 bydd Canolfan y Celfyddydau Pontardawe a NoFit State Circus yn cyflwyno sioe newydd – Barricade – ar faes Canolfan Hamdden Pontardawe
Fe fydd tref dawel Aberhonddu yn fwrlwm o leisiau nos Iau nesaf wrth i bedwar o feirdd arobryn gamu i’r llwyfan.
Dydd Mawrth - 01 Mai 2012
Heddiw cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Powys mai Orchard a lwyddodd gael rhedeg Jas Aberhonddu.
Dydd Gwener - 20 Ebrill 2012
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi trefnu’r digwyddiadau canlynol mewn partneriaeth ag ixia, melin drafod celf gyhoeddus.
Dydd Iau - 19 Ebrill 2012
Hoffai Coreo Cymru, Cynhyrchydd Dawns Greadigol Cymru eich gwahodd i ddigwyddiad rhwydweithio ar gyfer y sector dawns Cymreig a chyflwyniad gan y Cynhyrchydd Creadigol, Carole Blade.
O dan arweinyddiaeth weledigaethol yr artist Cymreig Marc Rees, bydd gofod celfyddydau symudol a grëwyd o gorff awyren DC-9 a drawsffurfiwyd - Adain Avion - yn teithio ar draws Cymru yr haf hwn yn tanio dychymyg y genedl ar gyfer Gŵyl Llundain 2012.
Dydd Mawrth - 17 Ebrill 2012
Gweithiau Newydd gan Artistiaid o Gymru – Joanna Burton a Caroline Hartley.
Mae llond lle o enwau wedi eu hychwanegu at raglen Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr, a gynhelir am y tro cyntaf eleni.
Artistiaid, digwyddiadau, cyfleoedd a mwy.
Tanysgrifiwch yma . . .